Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (123)v5 |
Teyrngedau er cof am y Farwnes Thatcher |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. |
Cwestiynau Brys Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr achosion presennol o’r frech goch yn ne-orllewin Cymru?
Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r effaith ar y diwydiant amaeth o gau safle prosesu cig Vion ar Ynys Môn?
Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa gymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei roi i helpu ffermwyr defaid yr ucheldir yr effeithiwyd arnynt yn ddiweddar gan y tywydd oer difrifol?
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) (Tudalennau 4 - 6) |
3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Maes Awyr Caerdydd (30 munud) Dogfennau
Ategol
|
4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg: Gyrfa Cymru (30 munud) |
5. Datganiad gan y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar yr Iaith Gymraeg a Datblygu Economaidd - i’w gyhoeddi fel Datganiad Ysgrifenedig |
6. Gorchymyn Cyrff Cyhoeddus (Diddymu'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd) 2013 - Gohiriwyd |
7. Gorchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni'r Ymrwymiad Lleihau Carbon 2013 (15 munud) NDM5201 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o Orchymyn Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2013. Dogfennau Ategol: |
8. Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plant a Theuluoedd (15 munud) NDM5164 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Plant a Theuluoedd, sy'n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf Plant 1989 (adran 31A (4A)) ac adrannau 125 i 131 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 12 Chwefror 2013 yn unol â Rheol Sefydlog
29.2(i). |
9. Cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) (60 munud) NDM5197 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) Gosodwyd y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 26 Tachwedd 2012. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Cymundeau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 21 Mawrth 2013. Dogfennau Ategol: |
10. Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) (15 munud) NDM5198 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. |
11. Cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) (90 munud) NDM5199 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) Gosodwyd y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2012. Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 25 Mawrth 2013. Dogfennau Ategol : |
12. Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) (5 munud) NDM5200 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Trawsplannu Dynol (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil. |
Cynnig i ethol Aelod a Chadeirydd i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol NDM5207 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol: 1. Gwyn Price (Llafur Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle Mak Drakeford (Llafur Cymru), a; 2. Vaughan Gething (Llafur Cymru) yn Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
|
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:00, Dydd Mercher, 17 Ebrill 2013